Amdanom ni

Sefydlwyd Apêl Cerflun George Melly ym mis Gorffennaf 2008 ym 25ain Gŵyl Jazz Aberhonddu. Yr ysbrydoliaeth i’r deyrnged hon i George a’i gysylltiad hir ag Aberhonddu a’r Ŵyl Jazz yw breuddwyd oesol Liz Elston, a gafodd y syniad am yr Ŵyl gyntaf un ac a fu’n Gadeirydd yr ŵyl am y deng mlynedd gyntaf. Mae hi nawr wedi ffurfio Pwyllgor Apêl Cerflun George Melly i geisio gwireddu’r prosiect celf hwn ac mae wedi gwneud cais llwyddiannus am statws elusennol.
Aelodau eraill y Pwyllgor yw Elizabeth Jeffreys, Oscar Williams, Brenda Goodley, y Cyng Martin Weale, David Brockwell, Deborah Anthony a Robert Macdonald, a fydd yn codi arian ac yn llywio’r prosiect hwn i gomisiynu cerflun i goffáu George Melly.
Robert Macdonald, arlunydd uchel ei barch sy’n byw ym Mannau Brycheiniog, sydd â’r cyfrifoldeb penodol dros oruchwylio’r broses artistig a chadeirio’r Panel Dewis Artist, a fydd yn llunio rhestr fer ac yn dewis yr artist i greu’r gwaith celf. Ar y Panel hefyd mae David Moore, curadur Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog 1992-2006, a chyn brynwr celfyddyd ar ran Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru.
Ein nod yw comisiynu cerflun a fydd yn coffáu perthynas George Melly ag Aberhonddu, ei ran yn sefydlu’r Ŵyl Jazz ac fel Llywydd Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru , ac i ddarparu cofeb barhaus yn y dref. Nid ein hamcan yw comisiynu delw neu bortread o George Melly, ond yn hytrach, waith celf sy’n cyfleu ei gymeriad lliwgar a rhyfygus, ei anghonfensiynoldeb a’i afiaith.