Am George

George Melly oedd y cerddor cyntaf i dderbyn contract gan Jazz Aberhonddu ar gyfer gŵyl 1984, a pharhaodd yn berfformiwr a chefnogwr ffyddlon ac ysbrydoliaethol tan ei farwolaeth. Cyfranogodd at sefydlu’r Ŵyl Jazz a bu’n Llywydd yr Ŵyl yn 1991.
Pan adawodd yr ysgol ymunodd â’r Llynges, a dyma pryd y dechreuodd ganu i ddifyrru ei gydweithwyr. Cafodd ei gyflwyniad cyntaf i jazz wrth glywed recordiad o Bessie Smith yn canu “Gimme a Pig-foot and a Bottle of Beer”, a bu hi’n ddylanwad cryf ar ei arddull canu. “Y ddynes ’ma’n rhuo, yn canu’r lein ’na, wnaeth imi feddwl, ‘Wel, dyma beth ydw i eisie!’ ”
Fe ddechreuodd ymddiddori’n arbennig mewn celf Swrrealaidd hefyd ar ôl darllen llyfr Herbert Read ar y pwnc. Wedi’r rhyfel, gweithiodd Melly i ELT Mesens, y swrrealydd a deliwr celf o Wlad Belg a ddaethai i Brydain ym 1936 i redeg y London Gallery yn Brook Street a chael ei gydnabod yn gyffredinol fel arweinydd y mudiad swrrealaidd ym Mhrydain. Ond croesodd George maes o law i fyd cerddoriaeth jazz, gan gael gwaith gyda Magnolia Jazz Band Mick Mulligan. Roedd hon yn adeg (1948 ymlaen) pan oedd New Orleans ac arddull jazz “New Orleans Revival” yn boblogaidd iawn ym Mhrydain. Tra byddai llawer o gerddorion Prydeinig yr oes yn trin jazz a’r blues bron gyda dwyster crefyddol, ymhyfrydai Melly yn eu hagwedd fwy masweddus, ac adlewyrchid hyn yn ei ddewis o ganeuon a’i berfformiadau llwyfan llawn asbri. Byddai ei gynulleidfaoedd yn cael modd i fyw hefyd gyda’i jôcs beiddgar a’i sylwadau ffraeth.
Yn y 1970au cynnar dechreuodd ganu gyda John Chilton's Feetwarmers, partneriaeth a barodd tan 2003. Yn ddiweddarach canodd gyda band Digby Fairweather.
Yn ogystal â bod yn Llywydd Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru, roedd George Melly’n gasglwr celf gyfoes. Parhaodd ei gariad at gelf Swrrealaidd drwy gydol ei oes, a bu’n darlithio ac yn ysgrifennu’n helaeth ar y pwnc.
Peth arall oedd yn mynd â’i fryd oedd pysgota pluen, ac yn ddiweddarach yn ei oes gwerthodd sawl darlun pwysig (gan Magritte a Picasso) er mwyn gallu prynu milltir o Afon Wysg. Yn 2000, cyhoeddodd “Hooked!” – llyfr am bysgota pluen.