Comisiwn Celf Cyhoeddus
Nod y prosiect yw comisiynu gwaith celf sy’n cyfleu synnwyr hwyl George Melly, ei feistres jazz, ei ddiddordeb mewn celf Swrrealaidd a’i awch am bysgota. Yr her fydd cyfleu, mewn ffurf 3D llonydd, gymeriad lliwgar a rhyfygus George Melly, ei anghonfensiynoldeb a’i afiaith.
Nid ein hamcan yw comisiynu delw neu bortread o George Melly. Ein hamcan yw comisiynu darn o waith celf o ansawdd uchel a ddaw’n nodwedd bwysig yn Aberhonddu; cerflun y bydd trigolion Aberhonddu’n falch ohono ac a fydd yn denu ymwelwyr i’r dref.
Y Broses
Mae briff artist wedi’i ysgrifennu a chaiff ei hysbysebu drwy wledydd Prydain yn yr haf. Dewisir rhestr fer o dri artist i ddatblygu cysyniad dylunio ar gyfer y gwaith celf, a bydd y Panel Dewis Artist yn dewis un artist i fwrw ymlaen â’i syniad dylunio, ymgynghori â’r gymuned leol a chreu model 3D o’r cerflun arfaethedig.
Bydd y prosiect yn digwydd mewn tri cham.
Cam 1: Bydd yr artist a ddewisir yn cynnwys y gymuned yn y prosiect, drwy weithdai a chyfarfodydd ymgynghori. Cynhelir gweithdai celf gyda phlant ysgol a grwpiau cymunedol i gyflwyno pobl i’r prosiect a’r cwestiynau sydd ynghlwm wrth gyfleu bywyd rhywun mewn gwaith celf a chynrychioli jazz drwy gelf weledol. I hybu trafodaeth am jazz a chelfyddyd a bywiogi’r gweithdai, gobeithiwn benodi cerddor jazz i chwarae cerddoriaeth ac i egluro sut y caiff cerddoriaeth jazz ei chreu. Yn ogystal, gobeithir y bydd artist lleol yn cynorthwyo’r artist a ddewisir gyda hwyluso’r gweithdai.
Yn ogystal â gweithdai celf ymarferol, bydd yr artist a ddewisir yn cynnal cyfarfod ymgynghori cyhoeddus i’w g/chyflwyno’i hun i’r dref, i ddangos gwaith blaenorol ac i drafod posibiliadau comisiwn George Melly.
Cam 2: Bydd yr artist a ddewisir yn creu fersiwn terfynol o’r cysyniad dylunio cychwynnol a gyflwynwyd yn ystod y gystadleuaeth ddylunio ac yn creu model 3D. Caiff y model ei lansio a’i arddangos yn gyhoeddus yn Aberhonddu a’i ddefnyddio i godi mwy o arian at y prosiect.
Cam 3: Pan fyddwn wedi codi’r arian i gyd caiff yr artist gomisiwn i greu’r gwaith celf.
Y lleoliad
Nid yn unig y bu gan George Melly ran yn sefydlu Gŵyl Jazz gyntaf Aberhonddu, ond roedd ganddo ef a’i wraig Diana gartref ar gyrion y dref am bron 30 mlynedd. Credwn fod ei gysylltiadau cryf ag Aberhonddu’n golygu mai dyma’r lle gorau i leoli gwaith celf yn ei enw.
Roedd yn bysgotwr brwd hefyd, ac mae’r lleoliad a ddewiswyd ar gyfer y gwaith celf ar y Promenâd yn Aberhonddu wrth gymer afonydd Wysg a Honddu.
