Cynseiliau
Mae llawer o enghreifftiau o gomisiynau celf gyhoeddus i goffáu pobl enwog neu hoff. Mae llawer o’r rhain ar ffurf portread neu gerflun o’r sawl sy’n cael ei goffáu. Ond mae nifer o weithiau celf coffaol diddorol iawn ar gael, sy’n haniaethol neu’n cynrychioli’r person drwy fotiffau neu symbolau sy’n gysylltiedig ag ef neu hi. Gan nad yw’n amcan gennym gomisiynu portread neu ddelw, dyma ddetholiad o weithiau celf amgen:

Scallop gan Maggi Hambling
Mae’r gwaith hwn yn dathlu’r cyfansoddwr Prydeinig, Benjamin Britten, ac fe’i dadorchuddiwyd ar draeth Aldeburgh, Suffolk, ar 8 Tachwedd 2003.
Mae Scallop Maggi Hambling yn gofadail i gerddor-gyfansoddwr mawr ac ar yr un pryd yn ddathliad o wreiddiau ei gelfyddyd. Mae’n berffaith briodol fod ei ffurfiau’n debyg i ffurfiau cragen fôr, gan ei fod yn waith sy’n ein hatgoffa mai celfyddyd i’r glust yw cerddoriaeth, ac mae’r glust yn debyg i gragen gennym.
Mae synau Môr y Gogledd yn ddi-ildio, ddiatal: ar arfordir Suffolk cânt eu chwyddo gan sŵn rhythmig ei donnau’n hyrddio, golchi a llusgo ar y marian graeanog mawr. Mae’n bresenoldeb absoliwt, yno cyhyd ag y bydd clustiau i’w glywed. Roedd yn realiti cyson ym mywyd Benjamin Britten yn y fan lle roedd yn byw ac yn gweithio, lle creodd ŵyl gerdd fendigedig, a lle y gosododd un o’i weithiau mwyaf, Peter Grimes. Mae’r ‘Sea Interludes’ o’r opera honno ymysg y darluniau prydferthaf o synau’r môr mewn cerddoriaeth.
Mae cerflun Hambling, o edrych arno o’r tir, yn codi ac yn ymledu yn erbyn yr awyr fel adenydd aderyn, colomen neu ffenics, yn codi: delwedd o fywyd, o heddwch, gobaith ac adfywiad. O edrych arno o gyfeiriad y gorllewin gyda’r wawr, ac o gyfeiriad y dwyrain gyda’r machlud, dyma gragen fawr sy’n sefyll yn fawreddog o’n blaenau gan roi rhyw fath o gofnod cyntefig o dreigl y dyddiau.
Wrth gerdded o amgylch ‘Scallop’ i ochr y môr datgelir agwedd arall. Yma, yn sglein dur di-staen ei ffurfiau tonnog gwelwn adlewyrchiad ariannaidd o’r tonnau sy’n seinio oddi tanynt ar ymyl llanw symudol y môr. Mae yma dyrfedd sy’n ymateb i gynnwrf y môr ac i’w symud di-baid. Mae’r ffurfiau hyn yn ymateb i seiniau’r môr mewn cymhlethdodau gweledol sy’n wrthgyferbyniad cyffrous i’r un ffurf cragen syml sy’n sefyll yn erbyn yr awyr dros y môr wrth inni edrych arno o’r tir. Mae’r ffurfiau hyn yn creu siambr atsain: canolir seiniau’r gwynt, y tonnau a’r gwylanod yng nghrombil y cerflun.
Dyfyniad yw’r testun hwn o www.maggihambling.com/Works/Scallop4.html a ysgrifennwyd gan Mel Gooding.
